Gweithio gyda
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
WEDI GWERTHU ALLAN!! Mae ysgolion Bro Morgannwg wedi adrodd fod sgiliau darllen ac ysgrifennu plant ar ȏl yr ysbaid cofid wedi llithro’n ȏl.Mae sgiliau llythrennedd, hyder i sgwrsio,cymryd tro,goddefgarwch,darllen ciwiau heb eiriau i gyd wedi cael eu heffeithio gyda cau ysgolion a chyfnodau clo. Mae annog plant i siarad drwy gynnal Amser Cylch bywiog a gweithredol yn hybu sgiliau cyfathrebu a mynegiant, gan anelu at hybu lles wrth ddefnyddio y fforwm ddiogel yma a strategaethau eraill. Disgrifia Jenny y camau pwysig a’r canllawiau ar gyfer Amser Cylch a phwysleisio’r Pum Sgil Cyfathrebu sydd eu hangen ar gyfer cynnal Amser Cylch. Bydd hefyd yn trafod defnyddio pypedau,technegau tawelu,peidio siarad ar draws eraill,gemau a gweithgareddau i helpu gyda bod yn rhan o dîm ac ennyn perthynas llawn parch.
(Sesiwn cyfrwng Saesneg)
Jenny Mosley
Ymgynghorydd Addysg ac awdur
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.