Hyder yn ȏl y galw

O’r sesiwn yma byddwch yn dod i ddeall y rhwystrau i hunan werth, sut i ddelio hefo’r beirniad mewnol a pheidio â rhoi sylw i farn eraill, a pheidio amau chi eich hun. Mae’r sesiwn hefyd yn gadael i ni ddysgu am y llais sy’n dweud “Dwi ddim digon da” a’r effaith negyddol y mae hyn yn ei gael arnom ni, a sut i’w wared o. Byddwch yn dysgu sut y gallwch wneud gwir effaith a chael gwared â’r nerfusrwydd wrth gyflwyno a chyfrannu.

Bydd yn mynd i’r afael â materion megis sut i osgoi amau ein gallu ein hunain, ac yn fwy arbennig sut i ATAL darogan sut y byddwch yn ymddwyn mewn gwahanol sefyllfaoedd!

Yn y sesiwn hwyliog a rhyngweithiol yma byddwch yn deall mai hyder yw’r allwedd, a byddwch yn gadael y sesiwn hefo syniadau ymarferol i ddatblygu a chynnal hyder mewn unrhyw sefyllfa.

Jackson Ogunyemi

Llefarwr ar gymhelliant ac Awdur