Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Mae pawb yn Arweinydd!
P’un a ydych yn arwain dysgu yn yr ystafell ddosbarth, yn arwain maes dysgu gyda Chwricwlwm i Gymru, yn bennaeth adran neu’n bennaeth ysgol, mae pawb yn arweinydd.

Mae arweinyddiaeth effeithiol yn hanfodol i ysbrydoli, datblygu, cefnogi a grymuso dysgwyr gwych. Dewch i ddarganfod mwy am sut y gallwn eich cefnogi ar eich taith arweinyddiaeth, o’ch Addysg Gychwynnol Athrawon hyd at arweinyddiaeth brofiadol.
Cewch y cyfle i lywio ein gwaith a chlywed sut y gall y safonau proffesiynol lywio eich ymarfer arweinyddiaeth yn y sesiwn ryngweithiol hon.

Addas ar gyfer pob ymarferwr o gynorthwywyr addysgu, athrawon dosbarth i benaethiaid mewn lleoliadau cynradd, uwchradd, arbennig a phob oed.
Bagiau nwyddau arweinyddiaeth ar gael i bawb sy’n mynychu!

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru